Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Llinyn byw pellen ein bod
yw edefyn Cerdd Dafod

Sefydlwyd y gymdeithas ym 1976 gan feirdd oedd yn ymddiddori'n bennaf ym marddoniaeth y mesurau caeth. Fe fu'n fodd i achub rheolau traddodiadol canu caeth yng nghystadleuthau'r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae hefyd yn hyrwyddo cyfarfodydd lawer gan gynnwys ymrysonnau barddol, y pennaf o'r rhain yn ystod wythnos y Brifwyl.

Cyhoedda'r Gymdeithas nifer o flodeugerddi, cyfrolau o farddoniaeth, a gweithiau eraill yn ymwneud a barddoni dan argraff Cyhoeddiadau Barddas, a deufisolyn o farddoniaeth, beirniadaeth a thrafodaeth ar farddoniaeth dan yr enw Barddas sydd i'w gael am bris i'r cyhoedd, ond yn rhatach trwy'r post drwy ymaelodi â'r Gymdeithas.

Manylion aelodaeth ac ati i gael (cyn hir) ar y we, gan (neu danfoner siec, ar sbec, yn daladwy i `Barddas' - ugain punt oedd y tâl aelodaeth ym 2001 - at):

Elwyn Edwards
Swyddog Gweinyddol Barddas
Bod Aeron
Heol Pensarn
Y Bala
Gwynedd LL23 7SR

Gwasg Aredig